Skip to main content

Rhowch eich adborth ar y gwasanaeth newydd hwn

Hysbysiad preifatrwydd Gwirio ansawdd aer lleol

Mae’r hysbysiad preifatrwydd yma yn esbonio sut mae’r gwasanaeth ansawdd aer lleol yn prosesu ac yn rhannu’ch data personol. Os oes gennych unrhyw ymholiadau am gynnwys yr hysbysiad preifatrwydd yma, anfonwch neges ebost at data.protection@defra.gov.uk.

Pwy sy’n casglu’ch data personol

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw’r rheolwr ar gyfer y data personol rydyn ni’n ei gasglu:

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig
Seacole Building
2 Marsham Street
London
SW1P 4DF

Os oes arnoch chi angen rhagor o wybodaeth am sut mae Defra yn defnyddio’ch data personol a’ch hawliau cysylltiedig, gallwch gysylltu â rheolwr diogelu data Defra yn data.protection@defra.gov.uk neu yn y cyfeiriad uchod.

Swyddog diogelu data Defra sy’n gyfrifol am wirio bod Defra yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth. Gallwch gysylltu â nhw yn DefraGroupDataProtectionOfficer@defra.gov.uk neu yn y cyfeiriad uchod.

Pa ddata personol rydyn ni’n ei gasglu a sut mae’n cael ei ddefnyddio

Er mwyn i’r gwasanaeth fod yn weithredol, rydym yn casglu’r cod post neu’r enw lle rydych yn chwilio amdano gan fod hwn yn ddata hanfodol er mwyn i’r gwasanaeth roi data perthnasol.

Os byddwch yn derbyn y cwcis dadansoddol Google, yna byddwn yn casglu:

  • eich cyfeiriad IP fel y gallwn gasglu gwybodaeth am leoliad defnyddwyr ein gwasanaeth.
  • Bydd hyn yn ein helpu i weld pa leoliadau daearyddol sy’n defnyddio ein gwasanaeth.
  • eich dyfais a’ch system weithredu i’n galluogi i wella ein gwasanaeth y term chwilio a ddefnyddiwyd gennych i ddod o hyd i 'Gwirio ansawdd aer' i’n galluogi i wella ein gwasanaeth
  • y tudalennau rydych yn rhyngweithio â nhw yn 'Gwirio ansawdd aer' i'n galluogi i wella ein gwasanaeth

Gallwch optio i mewn ac allan o dderbyn cwcis.

Y sail gyfreithlon dros brosesu’ch data personol

Y sail gyfreithlon dros brosesu’ch data personol er mwyn gwneud ymchwil ar effeithiolrwydd y gwasanaeth yw cydsyniad. Does dim rhaid ichi roi’ch cydsyniad a gallwch dynnu’ch cydsyniad yn ôl unrhyw bryd.

Cydsyniad i brosesu’ch data personol

Mae prosesu eich data personol yn seiliedig ar ganiatâd. Nid ydym yn casglu unrhyw wybodaeth a allai fod yn gysylltiedig yn bersonol ag unigolyn; fodd bynnag, bydd y cyfeiriad IP yn cael ei gofnodi ar gyfer ymarferoldeb y gwasanaeth.

Os ydych wedi cydsynio i dderbyn cwcis, ni ellir dileu unrhyw wybodaeth a gasglwn yn ystod y broses hon gan na fyddwn yn gallu adnabod y wybodaeth honno i unigolyn penodol.

Gyda phwy rydyn ni’n rhannu’ch data personol

Dydyn ni ddim yn rhannu’r data personol sy’n cael ei gasglu dan yr hysbysiad preifatrwydd yma gyda sefydliadau eraill.

Rydyn ni’n parchu’ch preifatrwydd personol wrth ymateb i geisiadau am wybodaeth. Dim ond pan fo angen gwneud hynny er mwyn bodloni gofynion statudol Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 y byddwn ni’n rhannu gwybodaeth.

Pa mor hir rydyn ni’n cadw data personol

Byddwn yn cadw’ch data personol am 7 mlynedd yn unol â gofynion y ddeddfwriaeth.

Beth sy’n digwydd os na fyddwch chi’n darparu’r data personol

Os na fyddwch chi’n darparu data personol, sef y cod post neu’r lleoliad rydych chi’n chwilio amdano, yna fyddwch chi ddim yn gallu defnyddio’n gwasanaeth gan na fyddwn ni’n gallu darparu unrhyw ddata i chi.

Mae’r data personol arall yn ddewisol a dim ond ar gyfer gwella gwasanaethau y mae ei angen.

Defnyddio penderfyniadau awtomataidd neu broffilio

Dyw’r data personol rydych chi’n ei ddarparu ddim yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y canlynol:

  • gwneud penderfyniadau awtomataidd (gwneud penderfyniad drwy ddulliau awtomataidd heb unrhyw ymwneud dynol)
  • proffilio (prosesu data personol yn awtomataidd i werthuso pethau penodol ynglŷn ag unigolyn)

Trosglwyddo’ch data personol y tu allan i’r Deyrnas Unedig

Dim ond i wlad arall y bernir ei bod yn ddigonol at ddibenion diogelu data y byddwn ni’n trosglwyddo’ch data personol.

Eich hawliau

Ar sail y prosesu cyfreithlon uchod, eich hawliau unigol chi yw:

  • Cydsyniad
  • Yr hawl i gael gwybod
  • Yr hawl i weld gwybodaeth
  • Yr hawl i gywiro
  • Yr hawl i ddileu
  • Yr hawl i gyfyngu ar brosesu
  • Yr hawl i gludadwyedd data
  • Hawliau mewn perthynas â gwneud penderfyniadau awtomataidd a phroffilio

Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau unigol o dan Reoliad Cyffredinol y Deyrnas Unedig ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) a Deddf Diogelu Data 2018 ar gael ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.

Cwynion

Mae gennych chi hawl i wneud cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth unrhyw bryd.

Siarter gwybodaeth bersonol

Mae ein siarter gwybodaeth bersonol yn esbonio rhagor am eich hawliau dros eich data personol.